Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Gareth Jones, Llywodraeth Cymru Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp - Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock, Performance Specialist. WAO Steve Ashcroft, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.
1.2 Fe wnaeth Jocelyn Davies ddatgan buddiant yn eitemau 2 a 7 fel cyn Weinidog a oedd yn gyfrifol am dai ac ni chymerodd ran yn yr eitemau hynny.
2 Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru; Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru; a Lisa Dobbins, y Tîm Ansawdd Tai, Llywodraeth Cymru.
2.2 Fe wnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· nodyn ar gylch gorchwyl y Tasglu Gweinidogol a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys rhestr o’i aelodaeth.
· nodyn ar argymhellion yr adolygiad o’r fframwaith rheoleiddio gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, gan gynnwys manylion am sut mae hynny’n mynd i’r afael â gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.
· Astudiaethau achos o arfer da o ganlyniad i waith a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fanteision Cymunedol.
3 Sesiwn friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve Ashcroft, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.
3.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi briff i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ei adroddiad am weithredu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.
3.3 Holodd y Pwyllgor Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol a’i raglen waith ar gyfer tymor yr haf 2013.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
6 Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
6.1 Trafododd y Pwyllgor sut yr hoffai ymdrin â chanfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7 Trafod y dystiolaeth am y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd wrth weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.